Cymorth
Adnoddau diweddaraf:

Adolygu UDA a gweddill y byd 1929-2000

CHINA DAN LYWODRAETH MAO ZEDONG, 1949-1976

Dillad

Bwyd

spidersilk physics

Cymorth a Gwybodaeth:

'Cookies'

Defnyddia’r safle hon ‘cookie’ i gofnodi rhif adnabod unigryw fydd, o’i osod, yn caniatáu i chi weld a defnyddio rhannau penodol o’r safle. Dinistrir y ‘cookie’ pan fyddwch yn cau’r porwr. Nid yw’r ‘cookie’ hwn yn cadw neu’n cofnodi unrhyw wybodaeth allai eich adnabod chi’n bersonol.

Cael mynediad i’r ffeiliau a rhannu ffeiliau

GCaD Cymru sy’n rheoli’r safle hon.  Bydd yn rhaid i chi gofrestru gyda GCaD Cymru er mwyn gallu llwytho i lawr ffeiliau a rannwyd gan eraill ac i chi hefyd allu rhannu ffeiliau.  Os gwelwch yn dda wnewch chi ymweld â’r dudalen cofrestru a chwblhau’r ffurflen syml sydd yno. Wedi cofrestru’n llwyddiannus a chael cyfrif gweithredol byddwch yn gallu rhannu a llwytho i lawr adnoddau o safle Rhannu.

Rhannu adnodd

Bydd rhaid mewngofnodi i allu rhannu

Yn gyntaf bydd rhaid mynd i’r dudalen lle y byddech yn dymuno gweld eich adnodd er mwyn sicrhau y bydd yn cael ei osod yn y safle cywir ar Rhannu. Os nad oes lleoliad addas ar gael ar y safle allwch chi, os gwelwch yn dda, gysylltu â ni i’n hysbysu am bwnc sydd ar goll.

  1. Pan fyddwch ar y dudalen lle y byddech yn dymuno gweld eich adnodd cliciwch y botwm ‘Rhannu adnodd’.

  2. Yna bydd gofyn i chi gwblhau’r meysydd canlynol:

    • Teitl yr Adnodd. Hwn fydd y cyswllt i’ch adnodd ar y dudalen cynnwys.  Rhowch  flaenoriaeth i ddisgrifio’r adnodd ac osgoi defnyddio teitlau megis ‘Uned 1’.  Yn hytrach nodwch ‘Uned 1: Cyflwyniad i weithio â phlant’.
    • Cwrs : Os gwelwch yn dda nodwch enw swyddogol y cwrs. Os nad oes enw swyddogol gadewch yn wag.
    • Uned : Os gwelwch yn dda nodwch enw’r uned. Os nad oes enw i’r uned gadewch yn wag.
    • Bwrdd arholi. Os gwelwch yn dda dewiswch y bwrdd arholi. Os nad yw ar y rhestr yna dewiswch ‘Dim un / Arall’.
    • Disgrifiad o’r adnodd: Rhowch ddisgrifiad gweddol fanwl o’ch adnodd. Bydd hyn yn gymorth i eraill ddeall natur eich adnodd.
    • Iaith : Os gwelwch yn dda nodwch yr iaith a ddefnyddiwyd gennych i gyflwyno’r adnodd.

  3. Wedi i chi gwblhau’r ffurflen cliciwch ‘Cyflwyno manylion adnodd’.

  4. Bydd y dudalen nesaf yn  crynhoi manylion eich adnodd.  Cewch y cyfle nawr i lwytho i fyny'r cyfan o’r ffeiliau sy’n gysylltiedig â’ch adnodd.

  5. Yn gyntaf cliciwch  y botwm ‘Browse’, bydd hyn yn caniatáu i chi ddod o hyd i leoliad ffeil ar eich cyfrifiadur.

  6. Cliciwch ar y ffeil briodol ac yna cliciwch ‘Agor’(‘Open’).

  7. Yna byddwch yn dychwelyd i’r dudalen llwytho ffeil i fyny,  fe welwch fanylion y ffeil a ddewiswyd gennych wedi’u cwblhau ar y maes ffeil.

  8. Yn olaf cliciwch y botwm ‘Llwytho’r ffeil hon i fyny’.  Ennyd neu ddwy gymerith hi i’w  llwytho ar y gweinyddwr, bydd yr amser yn ddibynnol ar faint eich ffeil.

  9. Wedi i chi lwytho i fyny byddwch unwaith eto yn gweld manylion eich adnodd, y ffurflen llwytho i fyny, rhestr o’r ffeiliau (neu’r ffeil) lwythwyd i fyny gennych hyd yn hyn ac, ar waelod y dudalen, y botwm ‘Cyfrannu’r adnodd hwn i Rhannu’.

  10. Os ydych yn dymuno llwytho i fyny mwy o ffeiliau i’r adnodd hwn  wnewch chi, os gwelwch yn dda, ail adrodd camau 5 i 8.

  11. Cliciwch ‘Cyfrannu’r adnodd hwn i Rhannu’ os ydych wedi llwytho i fyny'r cyfan o’r ffeiliau sy’n gysylltiedig â’r adnodd hwn.

  12. Byddwch wedyn yn cael eich dychwelyd i’r dudalen wreiddiol.  Fel arfer ni fydd eich adnodd yn ymddangos yn syth,  fe gymerith tua 30 munud cyn y bydd yn cael ei restru.