Cyfreithiol
Adnoddau diweddaraf:

Adolygu UDA a gweddill y byd 1929-2000

CHINA DAN LYWODRAETH MAO ZEDONG, 1949-1976

Dillad

Bwyd

spidersilk physics

Ac eithrio fel y nodir isod, eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru yw'r hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill y wefan hon, gan gynnwys y dylunio, testun, graffeg a'u trefniadau.

Ac eithrio fel y nodir isod, nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hawlio unrhyw fuddiant o ran hawlfraint cyfraniadau unigol o ddeunyddiau addysgu. Mae'r rhain yn parhau i fod yn eiddo i, ac yn gyfrifoldeb ar, bob cyfrannwr unigol ("Cyfrannwr"). Ac eithrio fel y nodir isod, mae'r holl hawliau, cyfrifoldebau a rhwymedigaethau mewn perthynas â hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill o ran cyfraniadau unigol o'r fath yn nwylo'r llunwyr a/neu'r personau neu'r sefydliadau sydd wedi rhoi cyfraniadau o'r fath ar y wefan hon.

Trwydded gan gyfranwyr i Rhannu - Telerau ac Amodau Defnyddio
Trwy roi deunyddiau addysg (gan gynnwys, ond heb gyfyngiad, yr holl gynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith) ar y wefan, bydd y Cyfrannwr:-

  1. yn rhoi trwydded i ddefnyddio'r deunyddiau addysgu i ddefnyddwyr gwefan Rhannu, i ddefnyddio'r deunyddiau addysgu at eu defnydd personol, anfasnachol eu hunain;

  2. yn rhoi gwarant i Lywodraeth Cynulliad Cymru mai gwaith gwreiddiol y Cyfrannwr ei hunan yw'r deunyddiau addysgu sydd wedi'u rhoi ar y wefan, ac nad yw'r deunyddiau addysgu wedi'u copïo, yn eu cyfanrwydd neu rannau sylweddol ohonynt, o unrhyw waith neu ddeunydd arall, ac na fydd y defnydd o dan y trwyddedau a roddwyd yng nghymal 1 uchod yn amharu ar hawliau unrhyw drydydd parti; ac mae'r Cyfrannwr yn rhoi gwarant bellach i Lywodraeth Cynulliad Cymru nad yw'r deunyddiau addysgu'n cynnwys unrhyw beth sy'n sarhaus, yn ddifenwol neu'n anweddus nac yn amharu ar hawliau statudol neu gyfraith gyffredin unrhyw drydydd parti;

  3. yn cytuno i indemnio Llywodraeth Cynulliad Cymru rhag yr holl gamau gweithredu, hawliau, galwadau, costau neu niwed sy'n deillio'n uniongyrchol;

  4. yn caniatáu i Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar ran y Cyfrannwr, gymryd unrhyw gamau neu wneud unrhyw beth y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru ei ystyried yn angenrheidiol i sicrhau cydymffurfiaeth ag amodau'r drwydded a roddir i ddefnyddwyr y wefan o dan gymal 1 uchod;

  5. yn ildio hawliau'r Cyfrannwr (os o gwbl) i gael ei adnabod fel awdur y deunyddiau addysgu ac i wrthwynebu triniaeth ddifenwol o'r deunyddiau addysgu.